Llansadwrn: Logo Papur Menai.

Llansadwrn: Newyddion


Y TYWYDD - NODION NATUR
1999 - 2001

Logo: Llansadwrn - Tywydd - Melin Llynnon, Ynys Môn


Rhagfyr 1999

Canolfan Gymdeithasol ddifyr a chyfleus yw Ysgol Llansadwrn erbyn hyn. Caewyd yr ysgol yn 1948 ond bu protest chwyrn o du'r rhieni a chadwyd y plant adref heb eu hanfon i unman am 6 wythnos. Miss Laura Ann Jones oedd y brifathrawes olaf. Yn y llun hwn o blant yr Ysgol, yn gynnar yn y dau ddegau, gwelir o leiaf dri o ddarllenwyr cyson Papur Menai sef Owen John Jones, Castellior ac Evan a Nan Roberts, Penhesgyn Newydd. Tybed a fedr rhai o'n darllenwyr ddweud rhagor am y llun ac enwi'r disgyblion eraill?
Hugh Owen oedd y prifathro, sydd ar y chwith yn y darlun. Dywed Owen John Jones mai ar y diwrnod olaf i'r prifathro yn yr ysgol y clywodd ef yn siarad Cymraeg am y tro cyntaf! Yr oedd yn gymaint o sioc i O. J. Jones ei glywed fel ei fod yn cofio hyd heddiw y rhigwn a adroddodd prifathro i gloch yr ysgol. Enid Mary Owen oedd athrawes y babanod ar y pryd.

Ysgol Llansadwrn - Ffotograff. [27KB]

Nid yw hanes y tywydd yn yr ardal yn mynd yn ôl ymhellach na 1928. Dyma rai manylion diddoral gan Dr Don Perkins. Y flwyddyn wlpaf oedd 1954 a'r sychaf oedd 1947. Y mis gwlypaf oedd Hydref 1967 a'r un sychaf oedd Ionawr 1997. Y diwrnod gwlypaf oedd Awst 10, 1957 a'r un cynhesaf oedd Awst 2, 1990 gyda thymheredd o 33 gradd - yr uchaf i'w gofnodi erioed ym Môn. Caed y noson oeraf ar Chwefror 12-13, 1985. Y mis cynhesaf oedd Awst 1995 a'r oeraf oedd Chwefror 1986. Y flwyddyn gynhesaf oedd 1990 ond cofier nad yw 1999 wedi dod i ben eto!
Cyn gadael y flwyddyn, gwell troi at dywdd y mis. Er i Hydref gychwyn yn wlyb iawn, cafwyd ysbaid sych ganol y mis (o'r 11eg hyd yr 20fed) a ddaeth âr gwlybaniaeth islaw'r cyfartaledd. Yr oedd Hydref yn fis mwynaidd iawn, gyda'r tymheredd ychydig bach yn uwch na'r cyfartaledd. Caed noson gynnes iawn ar y 29-30 o'r mis gyda gwynt cynnes a elwir yn Föhn yn dod o'r mynyddoedd. Dechreuodd mis Tachwedd yn oerach gyda pheth barrug yn y nos ar y 7fed a'r 16eg.


Chwefror 2000

Mis gwlyb oedd Rhagfyr, gyda 194 mm o law yn ei wneud y gwlypaf er 1994 a'r pumed gwlypaf er dechrau cadw'r cyfrif yn 1928. Bu gwyntoedd cryfion hefyd ar 7 diwrnod. Daeth cennllysg ac eira ar y 14eg, a daeth tywydd rhewllyd ar y 18-20ed.

Ddiwrnod Nadolig caed cawodydd, gyda mellt a tharanau a chenllysg, a thrannoeth caed cennllysg gryn 11 mm o faint.

Erbyn diwedd y flwyddyn yr oedd y glawiad yn 1286 mm - y flwyddyn wlypaf er 1967 a'r bumed wlypaf er 1928.

Caed tywydd stormus a gwyntoedd cryfion ddechrau Ionawr, yn enwedig ar y 5ed, 7ed a'r 11eg. Yr oedd yn wlyb iawn ar y 10-12ed; yr oedd cyfanswm y glawiad yn 95 mm yn cynnwys 11 mm ar yr 11eg - y diwrnod gwlypaf er Rhagfyr 1983.


Mawrth 2000

Ar ôl i Ionawr gychwyn mor wlyb, does ryfedd i gyfanswm y glawiad am y mis gyrraedd 145 mm, sef 150 y cant o'r cyfartaledd am y mis. Mis gweddol fwyn oedd, heb farrug yn yr aer; yr unig Ionawr arall tebyg iddo, er dechrau cadw'r cofnodion yn 1979, oedd Ionawr 1990. Caed ychydig o farrug tir, 13 o weithiau, sydd tua'r cyfartaledd; y tymheredd isaf oedd -3C ar yr 16eg. Cafwyd cenllysg ar dri diwrod ac eira neu eiraw ar ddau. Gafwyd llawer o wynt, a stormydd ar 5 diwrnod. Gwlyb a meyn oedd dechrau Chwefror hefyd. Gyda glawiad o 84 mm eisoes yn uch na'r cyfartaledd o 73 mm. Yr oedd y tymheredd uchaf yn ystod y dydd yn cyrraedd cyfartaledd o 9C, ond yr oedd yn 13C ar ddydd Sant Ffolant.


Ebrill 2000

Mis gwyntog fu Chwefror, gyda gwyntoedd cryfion iawn ar chwe diwrnod. Yr oedd hefyd yn fis gwlyb, gyda glawiad o 143 mm, y chweched Chwefror gwlypaf er pan ddechreuwyd cadw'r cofnodion yn 1928. Yr oedd y glawiad am fisoedd y gaeaf (Rhagfyr - Chwefror) yn 482 mm, y pedwerydd gaeaf gwlypaf yn ein cofnodion; yr oedd 1959/60 a 1989/90 yn wlypach, ond y gwlypaf un oedd 1994/95. Bu'n dyner, a dim ond ddwywaith y caed barrug (20 Chwefror a 4 Mawrth). Caed llai o rew eleni nag er 1979. Y mae dechrau Mawrth (hyd at yr 22ain) wedi bod yn sych - y sychaf er 1996, gyda dim ond hanner y glawiad arferol. Ond bu'n gymylog, ac felly y mae'r tymheredd wedi bod yn debyg i'r arfer. Caed llwch melyn o'r Sahara amryw o weithiau, yn enwedig ar Chwefror 4 a Mawrth 14 a 17. Clywyd y ddryw felen fach ar Fawrth 22 - bum diwrnod yn gynt na llynedd.


Mai 2000

PRIODAS

Dr. & Mrs G. Perkins: © D. Perkins.Dymuniadau gorau i Dr. Gordon Perkins ar ei briodas â Ceri Jones yng Nghonwy ar Ebrill 14eg. Y mae Gordon yn Fiolegydd Moleciwar yng Ngholeg Prifysgol Llundain a Ceri'n weithiwr cymdeithasol gydag Asiantaeth Gwarchod Plant. Y maent yn byw yn Hitchin.

Caed dechrau gwlyb i Fawrth gyda 16mm o law ar yr 2il a'r dyfroedd unwaith eto'n sefyll ar wyneb y tir. Er y caed peth barrug ar yr 2il, dyma'r pedwerydd Mawrth tyner mewn cyfres a gwelwyd Bwtsias y Gog o dan y coed yn y Gadlys ar y 27ain. Sychodd at ddiwedd y mis, a chaed 11 o ddyddiau heb law, a'r ffermwyr yn manteisio ar hynny i gychwyn aredig. Yr oedd glawiad y mis, sef 54mm, tua chwarter yn is na'r cyfartaledd. Caed dechrau gwlyb i Ebrill gyda 13mm o law ar yr ail; yna trodd yn oerach a chaed cenllysg, eirlaw ac eira. Y 3ydd, gyda thymheredd o 3.5C, oedd y diwrnod oeraf yn Ebrill er pan ddechreuwyd cofnodi yn 1979. Er henny, daeth y gwenoliad i'r Gadlys ar y 4ydd, a henny rai dyddiau yn gynt na'r arfer. Ebrill yw'r mis sychaf yn y flwyddyn yn arferol, ond erbyn yr 20ed yr oedd y glawiad yn 44mm, yn agos i dri chwarter y cyfartaledd. Oherwydd yr awyr glir ar noson y 6/7ed, cafwyd yr olwyg orau ers rhai blynyddoedd ar Oleuadau'r Gogledd oddi ar Ynys Môn.


Mehefin 2000

SÊL BLANHIGION

Yr oedd gardd Pat a Don Perkins yn agored ar 5-7 Mai pan gynhaliwyd y 5ed Sêl Blanhigion flynyddol. Gwnaed elw o 640 tuag at NSPCC (Cymru).
Gwerthfawrogir y gefnogaeth ardderchog a roddwyd i'r sêl ac o'r herwydd hon oedd y flwyddyn orau hyd yn hyn.

Y TYWYDD

Bu Ebrill yn wlyb - 89mm o law, a hynny 30% yn uwch na'r arfer. Yr oedd yn fis oer hefyd, y 4ydd Ebrill oeraf yn ystod y 22 mylnedd diwethaf gyda thymheredd y dydd 2C yn is na'r cyfartaledd. Y noson oeraf oedd y 6ed gyda'r tymheredd yn 3.7C ac yr oedd yn o'r 8 noson pan gafwyd rhew. Bu mwy na'r arfer hefyd o gawodydd gaeafol gyda chenllysg ar 7 diwrnod ac eirlaw ar 4. Bu'n gynnes iawn ar y 30ain (16.5C) ac arweiniodd hynny at 15 diwrnod di-law ar ddechrau Mai; caed mis Mai sych hefyd yn 1980, 1984 a 1995. Yr oedd y tymheredd 3C yn uwch na'r cyfartaledd a dyma'r dechrau Mai cynheasaf er dechrau cofnodion yn 1979. Trodd yn oerach a gwlypach erbyn ail hanner y mis; y diwrnod cynhesaf oedd y 17eg gyda 12C a chaed cyfanswm o 14mm o law. Gwelwyd gwybedog cyntaf y gwanwyn ar y 10fed o'r mis.


Gorffennaf 2000

Roedd pythefnos olaf Mai yn dra gwahanol i ddechrau'r mis: y tymheredd 2C islaw'r cyfartaledd, a'r glawiad 70% yn uwch na'r cyfartaledd. Dechreuodd Mehefin hefyd yn ddwl a gwyntog. Yr oedd tymheredd y dydd yn 2C islaw'r cyfartaledd, ond tymheredd y nos ychydig bach yn gynhesach na'r cyfartaledd am fod y tywydd cymylog yn ei chadw rhag oeri rhagor yn y nos. Bu'n llawer cynhesach ar Fehefin 17-19, a gwres o 29C ar y 18ed. Lleihaodd nifer y dyddiau cynnes yn hanner cyntaf y flwyddyn yn ystod y degawd 1990-2000: tua 6 a geir fel arfer, ond dim ond 4 eleni. Hyd yma bu Mehefin eleni yn weddol sych, gyda dim ond 40mm o law, o'i gymharu a 100mm yny tair blynedd diwethaf. Eleni, hyd yn hyn y mae'r glawiad yn 515mm, 15% yn uwch na'r cyfartaledd. Caed gwyntoedd cryfion yn ystod y mis a gwnaed peth difrod yn y gerddi.


Medi 2000

Tua'r arferol oedd y glawiad yng Ngorffennaf, gyda chyfnod sych o'r 14-25ain. Ar rai dyddiau y bu'r glaw, a hwnnw'n eithriadol o drwm. Daeth 19mm i lawr ar y 29ain, 16mm ohono mewn cenllif a barhaodd am chwarter awr. Tueddai i fod yn oerach nag arfer, tua 1C yn is na'r cyfartaledd am y mis. Y diwrnod cynhesaf (22C) oedd y 19eg a chaed pedair noson gynnes iawn. Ni chaed taranau y mis hwn eto - yr ail yn olynol. Caed pedair noson gynnes iawn eto ym Awst, sef 6-7ed a 13-14eg a'r gwres heb fod yn is na 15C. Yr oedd y glawiad (107mm hyd y 25ain) tua 60% yn uwch na'r cyfartaledd am y degawd diwethaf. Caed y glawiad mwyaf (25mm) yn ystod nos 2-3ydd. Am 1 o'r gloch brynhawn y 20ed caed cawod drom o genllysg (10mm ar ôl iddo doddi) a arhosodd ar y ddaear am gyfnod, a'r tymheredd ym disgyn o 19C i 11C. Caed storm o daranau mawr ar y 21ain, a mwy o law eto (10mm) mewn ychydig funudau. Tua diwedd y mis caed diwrnodiau cynnes. Gwelwyd y gwenoliaid (tua 100 ohonynt) yn crynhoi ar y gwifrau yn barod am eu taith i'r de.

Y MILENIWM

Plât y Mileniwm.

Llongyfarchiadau i Bwyllgor y Mileniwm ar eu dyfeisgarwch yn cyflwyno plât hardd i bob cartref yn y plwyf i ddathlu'r flwyddyn 2000. Ed Povey, yr arlunyddyn enwog sy'n byw yn Ty Newydd, a'i cynlluniodd. Dywedai ei bod yn ei chyfri'n fraint cael cyfle i gydweithio â'r gymuned yn Llansadwrn, ac mai ei ddewis amlwg oedd llun o Eglwys St Sadwrn. Y mae'n anrheg gwerth ei thrysori. Diolch yn fawr i Ed Povey a'r Pwyllgor.

PRIODAS

Huw a Nia.

Llongyfarchiadau i Huw Robat a Nia o Fangor ar eu priodas ar Awst 5. Cynhaliwyd y briodas yn Eglwys Gymraeg Dewi Sant, Toronto. Peth go arbennig oedd cael prodias o Gymru yn y capel. Cynhaliwyd y wledd yn Nhwr y CN sydd 1,150 o droedfeddi uwchlaw'r ddinas a'r ystafell fwyta'n symudol. Mae Huw yn Uchswyddog Iechyd yr Amglchedd i Gyngor Conwy a Nia yn Bennaeth Ieithoedd Modern yn Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch. Dymuniadau da iddynt yn eu cartref newydd yn Nhrefonwys, Bangor.


Hydref 2000

Er gwaethaf dwy gawod eithriadol o drwm ar Fedi 17 (22mm) a Medi 19 (32mm) y mae'r cyfanswm am Fedi sef 90mm yn is na'r cyfartaledd am y mis sydd yn 100mm. Y diwrnod cynhesaf oedd yr 11eg a gyrhaeddodd 24C. Ar y cyfan yr oedd yn gynhesach nag arfer, ond erbyn yr 19eg yr oedd tymheredd y nos yn is nag ers mis Mai a blas yr hydref eisoes ar ein gwarthaf.


Tachwedd 2000

Diwedd gwlyb a gafwyd i Fedi ac yr oedd glawiau y mis yn 139mm, sydd 40% yn uwch na'r cyfartaledd. Ond yr oedd yn fis cynnes gyda'r tymherau 0.7C yn uwch na'r cyfartaledd. Dyma'r pumed Medi'n olynol i'r tymheredd fod yn uwch na'r arferol. Hyd yn hyn, dim ond 4 mis yn 2000 sydd wedi cyrraedd tymheredd uwchlaw'r cyfartaledd. Dim ond 26 o ddyddiau gyda thymeredd uwch na 20C a gafwyd eleni; 1993 oedd yr isaf, gyda dim ond 20 o ddyddiau. Yr uchaf oedd 1990 gyda 66 o ddyddiau felly.

Cychwynnodd Hydref yn oerach, tua 0.5C yn is na'r cyfartaledd a chafwyd y barrug cyntaf at 11eg o'r mis. Erbyn y 15fed o'r mis yr oedd y glawiad yn 75% o'r cyfartaledd. Caed gwyntoedd cryfion yr Hydref ar y 9fed a'r 17eg a syrthiodd i cnwd cyntaf a goncrys pur fras yn y Gadlys. Nid yw brwdfrydedd y plant i'w casglu wedi peidio.

CADW YN ADFER HAFOTY, LLANSADWRN

gan Mari Jones

Y mae'r Hafoty yn adeilad gwerth ei drysori am ei fod, yn ocirc;l yr arbenigwyr, yn perthyn i'r bedwaredd ganrif ar ddeg, ac yn unigryw yng Ngogledd Cymru am ei fod yn enghraifft brin o adeilad ffrâm bren wedi ei orchuddio'n ddiweddarach acirc; charreg. Yr oedd adailadau felly'n gyffredin yng orllewin Lloegr. Teulu Norris a geisiodd atgynhyrchu technegau Lloegr yn Hafoty; nid oedd yr arbrawf yn llwyddiannus iawn - am iddynt efallai ddefnyddio pren ifanc neu am fod y safle mor agored a digysgod.
John Dimbylow, Mike Yates a Mike Garner ar Hafoty, Llansadwrn, Ynys Môn.Siap T oedd i'r adeilad gwreiddiol. Roedd ffrâm bren, oedd yn nodwedd o ogledd orllewin Lloegr sef cartref gwreiddiol y Norissiaid, yn rhoi'r strwythur, ond fe'i gorchuddiwyd â charreg yn ddiweddarch pan ddechreuodd y pren gamu a throi.
Ychwanegwyd yr adain orllewin gerrig yn gynnar yn yr unfed ganrif ar bymtheg, gan roi'r siâp H nodweddiadol i'r ty. Tua'r un pryd, trosglwyddwyd Hafoty, new Bodiordderch fel y'i adwaenwyd bryd hynny, i'r telu Bulkeley.
Ychwanegodd y teulu Bulkeley le tân carreg gwych, gyda arfbais y teulu, Sarasen a phen tarw, a'r arwyddair, sef arysgrifen Ladin, 'Os bydd Duw drosoch pwy sy'n eich erbyn', wedi eu cefio arno.

Dros y canrifoedd collodd y ty ei statws, ac erbyn y ddeunawfed ganrif roedd wedi cael ei enw modern - Hafoty, sy'n tarddu o'r geiriau hafod a ty. Awgryma hyn y cafodd ei ddefnyddio fel llaethdy, gan fanteisio efallai ar borfa haf y tir amaethyddol o'i gwmpas a oedd fel arall yn dir gwael.
Mae gwaith diweddar wedi datgelu sut y mae'r ty wedi newid dros y blynyddoedd, er enghraifft lle cafodd ffenestri eu blocio a lle rhoddwyd drysau yn lle ffenestri. Mae gwaith dadansoddi gofalus o ddarnau o gerrig cefiedig y daethpwyd o hyd iddynt ar y safle wedi caniatáu i arbenigwyr ailadeiladu ffenestr y cafyd gwared ohoni yn y 19eg ganrif. Mae arbenigwyr hefyd wedi darganfod effaith paent a ddefnyddiwyd ar y lle tân i greu diwyg marmor.

Fel rhan o'r project cadwyd pren canoloesol y to o dan y to newydd o lechi a adferwyd, o ardal Wrecsam. Adferwyd y lloriau carreg a chlai anwastad a rhoddwyd llawr pren newydd ar y lefel lawr cyntaf.
Er mwyn defnyddio cymaint o'r pren hanesyddol gwreiddiol a oedd yn bosibl defnddiwyd techneg o'r enw 'fflitsio', lle rhoddwyd platiau dur di-staen yn y pren er mwyn ei ailgryfhau. Achosodd lleoliad y tai bach yng nghorneli'r adeilad wendidau yn y strwythur hefyd, ac roedd angen eu cryfhau'n sylweddol.
Wedi i'r gwaith cadwraeth gael ei gwblhau tua diwedd y mis hwn, bydd gwaith yn dechrau i gynhyrchu a sefydlu paneli gwybodaeth, arweinlyfrau a phamffledi am Hafoty. Edrychwn ymlean i'r agoriad yr haf.


Mis Hydref 223mm o law - a dyma'r tywydd gwlypaf ers dechrau cofnodi yn 1928. Dim ond un diwrnod sych gafwyd! Misoedd Hydref 1954 a 1967 oedd yr unig rai fu'n wlypach. Roedd hefyd yn fis oerach na'r cyffredin gyda'r gradd 0.5C yn is na'r arfer. Wedi storm o fellt a tharanau ar 1 Tachwedd - a chenllysg 1cm o ddiamedr - parhaodd y mis yn oer a gwlyb iawn. Erbyn yr 22ain a'r glaw wedi cyrraedd 200mm -roedd yn o agos at guro record eto - dim ond yn 1929, 1954, 1960 a 1969 y cafwyd mwy o law - hyd at 244mm.
Bu Tachwedd yn fis oer hefyd gan bod y tymheredd uchaf 2C a'r tymheredd isaf 1C yn is na'r cyfartaledd. Bu 12 nos a farug as 8 diwrnod o genllysg.
Cyhaeddodd yr asgell goch - ymwelydd gaeaf o ogledd Ewrop ar yr 20fed i'r Gadlys a bu'n bwydo o angylch y gwrychoedd yn y pentref.

Bydd y Wiwer Goch yn ôl yn Llansadwrn o fewn dwy flynedd.

gan Manon Griffiths

Dyna yw barn Dr Craig Shuttleworth sy'n arbenigwr ar wiwerod. Mae ef yn enedigol o'r Alban ond erbyn hyn yn gweithio yn Menter Môn a Phrosiect Gwiwerod Coch Ynys Môn.
Gwiwer goch yn Ynys Môn.Er mwyn achub y wiwer goch rhag diflannu'n llwyr, mae'n rhaid dal a difa'r wiwerod llwyd, ond, wrth gwrs, nid oes modd gwneud hyn onibai bod mannau gweddol gyfyngedig i fesur llwyddiant y gwaith. Dyna paham y dewiswyd Ynys Môn ac ardal mynydd Llwydiarth ar yr Ynys.
Daeth y wiwer lwyd, sy'n frodor o ddwyrain yr Amerig i Brydain tua 1876 ond cymerodd bedwar ugain mlynedd iddi gyrraedd Ynys Môn o Sir Gaer a'r gred ydyw mai dros y pontydd ddaeth hi yma - er ei bod yn gallu nofio.
Ni sylweddolwyd ar y dechrau na allai'r ddwy wiwer fyw efo'i gilydd. Mewn arolwg ar Ynys Môn yn y pedwar degau dywedwyd bod y wiwer goch i'w gweld mewn 10 allan o 15 o blwyfi ond erbyn y saith degau roedd y wiwerod coch yn prinhau.
Mae'r wiwer lwyd yn gryfach na'r goch a phan mae'r cynefin yn prinhau mae'r wiwer lwyd yn cymryd lle'r wiwer goch yn y coedwigoedd coll-ddail, a hefyd maent yn cario feirws sy'n farwol i'r rhai coch.
Erbyn y naw degau dim ond ychydig o wiwerod coch oedd ar Ynys Môn - rhai yn y coed pîn yn Niwbwrch ac eraill ar fynydd Llwydiarth ger Pentraeth. Felly penderfynwyd mai dyma'r fan i gael gwared â'r wiwerod llwyd.
Dim ond tuw 30 o wiwerod coch oedd ar fynydd Llwydiarth ddwy flynedd yn ôl - ond ers hynny mae Craig wedi dal 4,000 o wiwerod llwyd, a rwan mae'r amcangyfif bydd 90 o wiwerod coch ar y mynydd erbyn diwedd y flwyddyn. Mae'n anodd deall sut y gall wybod hyn - ond mae ganddo ffordd o'u marcio, sydd fel 'tatoo' yn hytrach na na rhoi weiren yn eu clustiau fel sy'n cael ei wneud mewn lleoedd eraill - teimia y gallai hynny achosi niwed iddynt. Bydd yn rhaid i'r wiwerod ledaena eu tiriogaeth ymhen ychydig a dyna sut y bydda'n nhw'n cyrraedd Llansadwrn! Ond, er eu bod yn cynyddu'n gyflym, pwysleisa Craig y bydd yn rhaid i'r prosiect barhau gan na ellir cael gwared o'r wiwer lwyd yn gyfangwbl o Ynys Môn - ac felly bod perygl i'n wiwer goch o hyd. Ond dywed na fydd wahaniaeth i'r wiwer lwyd fod o gwmpas y trefi gan fod y wiwer goch yn llawer rhy swil i fyw yno!
Tybed pryd welwyd gwiwer goch yn Llansadwrn ddiwethaf? Hei lwc y cawn ei gweld eto cyn bo hir.


Y Flwyddyn 2000 - ei glaw a'i hindda.

Fel y byddech yn disgwyl, hon oedd y flwyddyn wlypaf yn yr ardaloedd hyn er pan dychreuwyd cadw cofnod yn 1928. Y flwyddyn wlypaf cyn hyn oedd 1954, gyda 1452mm o law; ond fe'u curwyd gan 2000 gyda 1484mm o law. Fel y gwelir oddi wrth y diagram isod, yr oedd 8 mis allan o'r deuddeg yn wlypach na'r cyfartaledd tymor hir, a dim ond 4 mis oedd yn sychach. Aiff y record i fis Tachwedd; dyma'r Tachwedd gwlypaf a gofnodwyd, a gyda 251mm o law yr oedd dipyn yn uwch na'r 246mm a gofnodwyd yn Treffos yn 1960. Hwn oedd y mis gwlypaf hefyd ac eithrio Hydref 1967, pan disgynnodd 259mm o law. Tybed a oes rai o'n darllenwyr yn cofio'r mis hwnnw? Yr oedd tymor yr hydref (sef Medi i Dachwedd) yn wironeddol wlyb; gyda 612mm o law yr oedd yn dipyn gwaeth na'r 589mm a gaed yn 1935. Y diwrnod gwlypaf un oedd 11 Ionawr, pan gaed 41mm mewn un diwrnod. Ond coeliwch neu beidio, yn ystod y flwyddyn wlyb hon caed 84 o ddyddiau heb ddiferyn o law!

Cliciwch yma: Glawiad 2000: © 2002 D.Perkins.

Nid oedd y tymheredd yn dda iawn ychwaith, Cyfartaledd y gwres uchaf am y flwyddyn oedd 13.1C ac yr oedd hynny'n dipyn is na'r flwyddyn gynhesaf, sef 1997, gyda chyfartaledd o 14.0C. Ychydig o ddyddiau poeth a gafwyd (sef 20C neu ragor), a dim on un sef 18 Mehefin, gyda 29C, a aeth dros 25C. Er hynny, ni chafwyd barug yn yr aer rhwng 5 Mawrth a 15 Rhagfyr. Cafwyd rhew ar y tir, foedd bynnag, 74 o weithiau a oedd 9 yn uwch na'r cyfartaledd. Daeth 73 o'r rheini ym mis Rhagfyr; y tymheredd isaf oedd minus 5C yn yr aer, minus 11C ar y tir, ar 29 Rhagfyr. Dyma'r unig fis hefyd inni gael eira; disgynnodd 16cm mewn awr ar 27 Rhagfyr a hynny ar ôl mellt, cenllysg a tharanau am 9.45 yr hwyr. Erbyn y bore yr oedd 20cm ar llawr, a chymaint a 30cm yn rhai o'r caeau cyfagos. Yn ystod y flwyddyn, fodd bynnag, caed mwy na'r arferol a eiraw; daeth ar 19 o ddyddiau, sef 7 yn uwch na'r cyfartaledd.


Mawrth 2001

Ionawr - Chwefror

Cychwyn gwlyb a fu i Ionawr gyda 19mm o law yn y tridiau cyntaf, a'r 3ydd gyda 10mm yn wirioneddol wlyb. Yna troes yn sych, a'r Ionawr hwn, gyda 44mm o law, oedd yr Ionawr sychaf er 1997, pan oedd yr Ionawr hwnnw y mis sychaf (dim ond 7mm o law) er pan ddechreuwyd cofnodi. Ni fu ond chwe Ionawr sychach nag eleni er 1928.

Yr oedd y tymheredd hefyd 1 radd yn is na'r cyfartaledd. Ionawr 1af oedd y diwrnod cynhesaf (11C) a'r 17eg oedd yr oeraf (-3C). Caed barrug yn yr aer ar 10 diwrnod a barrag ar y tir ar 20 diwrnod. Caed hefyd ddau gyfnod o wyntoedd, y naill ar y 1af i'r 3ydd a'r llall ar yr 11eg i'r 12fed, ond nid oeddynt yn stormydd.

Caed cychwyn gwlyb i Chwefror hefyd, gyda 100mm o law yn yr 11 diwrnod cyntaf (135% o'r cyfartaledd). Yr oedd yr 11eg yn eithriadol o wlyb gyda 27mm o law.

Ond yna caed dyddiau braf, sych ac oer: bu'r dyddiau'n ddigwmwl a'r nosweithiau'n glir gyda llwydrew trwm (roedd yn -5C ar y 14eg).


Ebrill 2001

Chwefror - Mawrth

Ar ôl cychwyn gwlyb, caed tywydd sych ac oer hyd y 19eg o'r mis. O'r 23ain ymlaen caed eirlaw, glaw ac ambell gawod o genllysg. Ar y 28ain caed 2cm o eira yn y bore a chawod o genllysg bras tua 6 o'r gloch gyda'r nos. Yr oedd y glawiad o 114mm tua 150% o'r cyfartaledd ac ni fu ond 13 o fisoedd Chwefror gwlypach er dechrau cofnodi yn 1928. Chwe diwrnod sych a gaed, a dyma'r Chwefror oeraf er 1966. Yr oedd barrag yn yr aer ac ar y ddaear 17 diwrnod.

Parhaodd y tywydd oer ar y 4 diwrnod cyntaf o Fawrth a noson y 3/4 ydd oedd yr oeraf. Cynhesodd yn fawr erbyn y 6ed a daeth yr haul allan i godi'r tymheredd i 14C. Daeth y gwenyn allan i droi o gwmpas grug y gaeaf a'r gwanwyn sydd mewn blodau. Daeth y tywydd oer yn ôl ar 13eg a chaed cawodydd o eira mân ac eira ar 17/18ed a'r 21ain. Gyda glwaiad o ddim ond 19mm, sef 25% o'r cyfartaledd dyma'r cychwyn sychaf i fis Mawrth er 1993. Gyda thywydd mwynach erbyn y 23ain dechreuodd dail ymddangos ar rai planhigion.


Mai 2001

Mawrth - Ebrill

Daeth Mawrth i ben yn sych, gyda'r glawiad o 35mm yn ddim ond hanner yr arferol am y mis. Y mis hwn oedd y sychaf er Gorffennaf 1999. Yr oedd y tymheredd un gradd yn is na'r cyfartaledd, gyda mwy o farrug yn yr aer nag er 1987 a mwy ar y tir nag er 1995.

Gwlyb oedd dechrau Ebrill, ac erbyn yr 20ed o'r mis yr oedd glawiad o 66mm yn uwch na'r cyfartaledd am y mis. Er ei bod yn gynnes ddechrau'r mis, oerodd yn ddiweddarach, gyda'r tymheredd un gradd yn is na'r arferol.

Ar y 18ed a'r 19eg caed cawodydd o genllysg ac ychydid o blu eira.

Ar noson glir yr 11eg caed golwg ardderchog o'r aurora borealis, sef Goleuadau'r Gogledd; yr oedd rhannau o'r awyr yn goch ac yn troi'n oren, a rhai rhannau yn wyrdd golau.

Daeth y dryw melyn bach yn ôl i Gadlys ar y 12ed, a thystia un o ddarllenwyr Papur Menai iddo weld un wennol yn y pentref ar y 18ed., Ynsicr daeth y Gwanwyn.


Ebrill - Mai

Ar y cyfan gwlyb ac oer oedd Ebrill. Caed 104mm o law ac yr oedd y tymheredd 1C yn is na'r cyfartaledd. Ebrill 1970 oedd y gwlypaf ac Ebrill 1980 oedd y sychaf er pan ddechreuwyd cadw cofnodion tywydd.

Cychwynnodd Mai yn gynhesach ac yn sychach. Y cyfnodau o'r 9ed i'r 13eg ac ymlaen o'r 22ain oedd y rhai mwyaf heulog a chynnes, gyda thymheredd o 24C ar y 12fed a'r 24ain. Clywyd terfysg ar y 10, 11 a 13 ond ni chyrhaeddodd y glawiad trwm a gaed mewn mannau fel Gaerwen, Rhoscefnhir a Phentraeth i Lansadwrn. Caed y glaw trymaf (11mm) yn y nos ar 14/15ed rhwng 10 a 4 y bore. Dyma'r Mai sychaf er 1990 a 1991, y sychaf er yn Llansadwrn oedd Mai 1939. Unwaith y caed llwydrew, sef ar y 4/5ed.


Gorffennaf 2001

Mai - Mehefin

Daeth y glaw mawr ar 14 Mai â'r cyfanswm am y mis i 49mm, sef 74 y cant o'r cyfartaledd. Ar ôl mis Mai cynhesach na'r arfer, siom oedd gweld Mehefin yn dechrau mor gymylog a gyda gwynt oer o'r gogledd a wnaeth y tymheredd yn is na'r cyfartaledd. Yr oedd yn 4 gradd yn is na'r cyfartaledd ar y 7fed a'r 8fed o'r mis. Yr oedd y 14eg yn ddiwrnod gwlyb iawn gyda 14mm o law. Ond yna ar y 15ed trodd y gwynt i'r de a chawsom ddiwrnod cynnes, tua 19C ond yr oedd hynny dipyn yn is na'r cyfartaledd am Fehefin sef 24C. Hyd at yr 22ain o'r mis cafwyd 9 diwrnod sych a'r glawiad yn ddim ond 40 y cant o'r cyfartaledd a hynny'n ei wneud y Mehefin sychaf er 1966.


Medi 2001

RHIF 250 Medi 2001 - Penblwydd Hapus Papur Menai

Gorffennaf ac Awst

Dim on 46mm o law a gaed ym mis Gorffennaf, ac yr oedd hynny islaw'r cyfartaledd (77%) am y trydydd mis yn olynol. Y 3ydd oedd y diwrnod gwlypaf (11mm) gyda storm fawr o daranau yn Nyffryn Conwy. Achosodd y 67mm a ddisgynnodd yn Llandudno lifogydd mewn rhai cartrefi a siopau. Yr oedd mis Awst gyda glawiad o 80mm (hyd at y 23ain o'r mis) oddeutu'r cyfartaledd, ond yr oedd misoedd yr haf (Mehfin - Awst) rhyngddynt 66% islaw'r cyfartaledd; y mae hynny'n gwbl groes i llynedd a oedd yn uwch na'r cyfartaledd. Y diwrnod gwlypaf ym mis Awst oedd y 18ed gyda 15mm o law.

Cymysg oedd y tymheredd ym mis Gorffennaf. Cychwynnodd yn gynnes gyda'r tymheredd canalog yn 4C uwchlaw'r cyfartaledd, ac felly'n parhau'r cyfnod cynnes ar ddiwedd Mehefin. Ond trodd yn oerach at ganol y mis gyda'r tymheredd yn 4C islaw'r cyfartaledd. Yr oedd noson y 15ed yn bur oer, gan ddisgyn i 4.1C, yr isaf ym mis Gorffennaf er 1984. Cynhesodd at ddiwedd y mis a'r tymeredd yn codi eto i 4C uwchlaw'r cyfartaledd. Nid ymestyynnod y cynhesrwydd yn bell i fis Awst; y 1af oedd y diwrnod cynhesaf gydag uchafbwynt o 24C, ond ar ôl hynny yr oedd yn oerach gyda'r tymheredd yn 2C islaw'r cyfartaledd. Ni chaed yn ystod yr haf y gwres uchel o 28-32C a gaed mewn rhannau eraill. Mewn gwirionedd dau ddiwrnod poeth a gaed eleni, sef Mai 26ain gyda 25.8C a Gorffennaf 28ain gyda 25.9C. Bu rhai dyddiau'n gymlog iawn; ychydig, os dim haul, a welwyd yn y cyfod Awst 11eg-19eg, dim ond cymylau isel a niwl. yr oedd cynhesrwydd uchel yr haf yn 0.7C islaw'r cyfartaledd a'r cynhesrwydd isel yn 0.4C uwchlaw'r cyfartaledd, y ddau yn adlewyrchu'r twyydd cymylog.


Hydref 2001

Awst ac Medi

Caed tri diwrnod gwlyb ddiwedd Awst, a chododd hynny gyfanswm y glaw i 97mm, sef 30% yn uwch na'r cyfartaledd. Yr oedd yn Awst gwlyb, yn sefyll yn 31ain er 1928, ond yr oedd yn sychach na llynedd pan oedd y glawiad yn 132mm. Yr oedd y tymheredd yn gymharol isel, ond caed dyddiau heulog at ddiwedd y mis, gyda thymheredd o 22C ar y 29ain a 23C ar y 30ain, a oedd tua'r hyn a ddisgwylid yn Awst. Dim ond tri diwrnod cynnes, sef dros 20C, a gaed yn ystod y mis. Yn 1997 y caed Awst cynnes ddiwethaf, ac yr oedd tymheredd hwnnw 2C yn uwch na'r cyfartaledd. Y cynhesaf oedd Awst 1995, a oedd 4C yn uwch na'r cyfartaledd. O'r 23 o fisoedd Awst olaf, bu tymheredd 8 yn uwch na'r cyfartaledd a 15 yn is.

Hyd at yr 22ain, bu mis Medi yn sychach na'r cyfartaledd, gyda dim ond 47mm o law, a dyna'r sychaf er 1989 gyda dim ond 25mm. Y diwrnod gwlypaf oedd y 5ed gyda 9mm o law. Ond bu llawer o gymylaw a gwynt main o'r gogledd, a hyd yn oed pan oedd haul yr oedd y tymheredd uchaf yn 1C islaw'r cyfartaledd. Y diwrnid cynhesaf oedd y 7ed gyda thymheredd o 18C. Oherwydd bod y nosweithiau'n gymlog ni fu'r tymheredd isaf in 1C yn uwch na'r cyfartaledd. Y nosweithiau oeraf oedd y 14eg gyda 8C a'r 21ain gyda 9C; oherwydd i'r awyr glirio cyn y wawr ar y ddwy noson hynny caed gwlith trwm a niwl ysgafn dros y caeau.


Tachwedd 2001

Medi - Hydref

Daeth diwedd gwlyb i Fedi gweddol sych. Caed glaw trwm o 39mm ar yr 28ain a'r 29ain, a chododd hynny lawiad y mis i 98mm, sef tua'r cyfartaledd am y mis. Yr oedd yr 28ain er hynny yn ddiwrnod cynnes gyda thymheredd o 22C a daeth storm o daranau i ddilyn yn oriau cynnar y 29ain.

Ar ô ychwynnodd o stormydd ar Hydref 1af, cychwynnodd y mis yn gynnes, gyda'r tymheredd isaf yn codi 6C yn uwch na'r cyfartaledd, Gyda thymheredd o 19C ar y diwrnod cynhesaf, sef y 18ed dringodd Ynys Mô i frig y tabl o'r manau cynhesaf. Oherwydd y cynhesrwydd y mae amryw o blanhigon yn dal i flodeuo, gan gynnwys y pabi Cymreig. Ar rai dyddiau (Medi 28 a Hydref 5, 12) caed gwynt o'r de-ddwyrain a hynny'n dod â ffurfiant trawiadol o gymylau uwchben y Fenai a Llansadwrn. Cymylau deuamgrwn yn ymddangos yn gwbl lonydd oeddynt.

Yn ystod yr wythnosau diwethaf crynhodd y gwenoliaid a gwenoliad y bondo yn barod ar gyfer eu taith tua'r de. Gwelwyd cannoedd ohonynt ar y gwifrau a thoeau'r tai ar y 29ain o Fedi. Ar eu taith i Dde'r Affrig bydd yr adar yn mynd trwy stormydd o lwch yng Ngogledd yr Affrig. Ac ar y 14eg o Hydref, yn dilyn rhai dyddiau o wyntoedd o'r de, caed trwch o lwch y Sahara yn disgyn ar Lansadwrn.


Rhagfyr 2001

Eleni caed yn Llansadwrn yr Hydref cynhesaf er pan ddechreuwyd cofnodi'r tywydd, gyda'r tymheredd isaf yn 13.2C sef 3 gradd yn uwch na'r cyfartaledd. Er mai yn 1979 y dechreuwyd cofnodi yn Llansadwrn, gwnaed y gwaith ers amser hir mewn mannau eraill. Cyn belled yn ôl â 1664, yn fuan ar ôl darganfod y thermomedr, yr oedd Robert Hooke yn rhoi mesuriadau'r tywydd. Er i lawer o amaturiaid fod wrthi, y mae'n rhaid cofio mai offer amherffaith iawn oedd y thermomedr ar y cychwyn.

Ond gyda chynnydd mewn diddordeb yn yr ardd, bu'n rhaid cael gwella cofnodi, ac aeth James Six ati yn 1782 i ddyfeisio thermomedr yn nodi'r uchafrif a'r isrif. Yn 1866 dyfeisiodd Thomas Stevenson, peirannydd goleudy o'r Alban, yr hyn a elwir ar ei ô yn Sgrîn Stevenson. Hon, a ddefnyddir o hyd, sy'n ein galluogi i gael darlleniadau cywir i'w cymharu â'i gilydd.

Wrth ddefnyddio'r ymadrodd 'er dechrau cofnodi' cyfeiro a wneir at y gwaith a wnaed gan yr Athro Gordon Manley i addasu'r cofnodion tywydd cynnar er mwyn eu cymharu'n gywir â rhai heddiw. Trwy ddefnyddio'i waith ef gellir bellach gymharu â chofnodion mor bell yn ô â 1659. Trwy wneud hynny y gellir dweud mai hwn oedd yr Hydref cynhesaf er pan ddchreuwyd cofnodi.



Gwybodaeth newydd: 5 Gorffennaf 2002. http://www.llansadwrn-wx.co.uk

© Hawlfraint 2000-2002