Llansadwrn: Logo Papur Menai.

Llansadwrn: Newyddion


Y TYWYDD - NODION NATUR
2004

Logo: Llansadwrn - Tywydd - Melin Llynnon, Ynys Môn


Chwefror 2004

Bu'r tywydd mwynaidd yn Rhagfyr yn help i wneud 2003 yn un o'r blynddoedd cynhesaf a gofnodwyd: yr oedd y tymheredd yn agos i 1C yn uwch na'r cyfartaledd, Ar 5 mis caed mwy na 100 mm o law, ac yr oedd 4 mis yn bur sych: ond yr oedd cyfanswm y flwyddyn, sef 1009 mm, yn debyg i'r cyfartaledd.

Bu'n fwynaidd eto yn Ionawr: y mae bysedd y cwn a dail y gegiden yn tyfu'n gryf hyd ymyl y ffrydd. Y planhigyn i sylwi arno yw Heuldro'r Gaeaf, sydd wedi blodeuo'n dda. Y mae ei ddail ar siâp calon a'i flodau'n leilac persawrus. Daw yn wreiddiol o glych y Môr Ganaldir, ac fe'i caed i ddechrau mewn gerddi ond y mae bellach wedi ymestyn dros y terfynau. Ond gwyliwch, y mae ei wreiddgffion yn gryf a gall dyfu'n ordwrchus mewn gardd.





Gwybodaeth newydd: 8 Rhagfyr 2004.
http://www.llansadwrn-wx.co.uk

© Hawlfraint 2000-2004